Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol
HSC(4)-32-12 papur 4
Ymchwiliad i’r gwaith o weithredu’r Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol ar gyfer Diabetes yng Nghymru a’i ddatblygiad yn y dyfodol
Pwrpas
1. Mae’r papur hwn yn darparu tystiolaeth ar gyfer ymchwiliad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol i’r modd y caiff y Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol ar gyfer Diabetes yng Nghymru ei weithredu, a’i gyfeiriad yn y dyfodol.
2. Mae’r papur tystiolaeth yn ystyried:
· Arweinyddiaeth Llywodraeth Cymru o ran gweithredu’r Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol ar gyfer Diabetes yng Nghymru;
· Cyfeiriad ar gyfer gofal diabetes yng Nghymru yn y dyfodol; a
· Dulliau o gefnogi gofal diabetes drwy weithgarwch ym maes iechyd y cyhoedd.
Cefndir
3. Lansiwyd safonau’r Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol ar gyfer Diabetes yng Nghymru ym mis Ebrill 2002. Maent yn nodi 12 safon y mae gofyn i’r GIG yng Nghymru eu gweithredu erbyn 2013 (mae rhestr o safonau’r Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol i’w gweld yn yr atodiad).
4. Lansiwyd y Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol ar gyfer Diabetes yng Nghymru: Strategaeth Gyflawni ym mis Mawrth 2003. Mae Strategaeth Gyflawni’r Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol yn gynllun deng mlynedd sy’n nodi amcanion cenedlaethol y gellir barnu perfformiad y GIG yn eu herbyn.
5. Yn 2006, sefydlwyd Grŵp Consensws Cymru Gyfan a oedd yn cynnwys gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, rheolwyr a defnyddwyr gwasanaeth sy’n gysylltiedig â gofal diabetes. Cafodd is-grwpiau eu nodi er mwyn datblygu canllawiau ar gyfer pob un o 12 safon y Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol. Cyhoeddwyd y canllawiau hynny yn 2008.
6. Yn 2006, lluniodd y Sefydliad Cenedlaethol dros Iechyd a Rhagoriaeth Glinigol Ganllawiau Arfarnu Technoleg ynghylch darparu addysg strwythuredig i bobl sydd â diabetes, er mwyn hybu hunanofal effeithiol.
7. Sefydlwyd Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar Ddiabetes yn 2010 i ystyried model gwasanaeth integredig ar gyfer gofal diabetes cost-effeithiol â gwerth clinigol uchel ar draws Cymru, sy’n seiliedig ar atal diabetes; trin a hunanreoli diabetes; gofal sylfaenol, cymunedol ac eilaidd; a gwaith sydd eisoes yn mynd rhagddo ledled Cymru i wella dulliau o reoli cyflyrau cronig. Argymhellodd y Grŵp fodel cydweithio rhwng gofal sylfaenol a gofal eilaidd er mwyn darparu gwasanaethau craidd i gleifion yn y gymuned drwy Glinigau Cymunedol a Fferyllfeydd Cymunedol.
8. Yn 2010, gofynnwyd i bob Bwrdd Iechyd sefydlu Grŵp Cynllunio a Chyflawni ar gyfer Diabetes i ddatblygu a goruchwylio cynlluniau cyflawni lleol er mwyn mapio’r daith tuag at gydymffurfio â’r Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol erbyn 2013, gan adrodd wrth y Bwrdd ynghylch cynnydd.
Monitro’r Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol ar gyfer Diabetes
9. Cyfrifoldeb y Byrddau Iechyd Lleol unigol yw casglu gwybodaeth sy’n ymwneud â monitro cynnydd tuag at weithredu’r Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol ar gyfer Diabetes, ac adrodd yn ei chylch.
10. Rhwng 2003 a 2010, roedd Llywodraeth Cymru yn cael y wybodaeth ddiweddaraf bob chwarter gan y Byrddau Iechyd Lleol am gynnydd o ran gweithredu’r Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol ar gyfer Diabetes.
11. Cynhaliodd Llywodraeth Cymru adolygiad sylweddol o gynnydd tuag at weithredu’r Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol ar gyfer Diabetes yn 2010/11. Bu’r adolygiad yn crynhoi’r holl wybodaeth o adroddiadau pob Bwrdd Iechyd Lleol ynghylch cynnydd, a nododd wendidau yn eu prosesau monitro.
12. I fynd i’r afael â’r problemau a oedd yn ymwneud â’r broses fonitro, datblygodd Llywodraeth Cymru offeryn hunanasesu ar gyfer y Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol ar gyfer Diabetes, ac fe’i dosbarthodd i bob Bwrdd Iechyd Lleol. Yn rhan o adolygiad 2010/11, gofynnodd Llywodraeth Cymru i bob Bwrdd Iechyd Lleol gyflwyno hunanasesiad wedi’i gwblhau er mwyn cael darlun cliriach o gynnydd tuag at weithredu’r Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol ar gyfer Diabetes ledled Cymru.
13. Roedd yr offeryn hunanasesu hefyd yn cynnwys adrannau er mwyn i Fyrddau Iechyd Lleol fonitro eu cynnydd tuag at weithredu Canllawiau Arfarnu Technoleg y Sefydliad Cenedlaethol dros Iechyd a Rhagoriaeth Glinigol ynghylch addysg strwythuredig i bobl sydd â diabetes, er mwyn hybu hunanofal effeithiol.
14. Yn dilyn yr adolygiad hwn, darparodd Llywodraeth Cymru adborth unigol i bob un o’r Byrddau Iechyd Lleol ym mis Gorffennaf 2011, gan nodi cynnydd a thynnu sylw at faterion yr oedd angen mynd i’r afael â hwy.
15. Ers 2011, mae Byrddau Iechyd Lleol wedi gallu defnyddio’r offeryn hunanasesu i fonitro eu cynnydd tuag at weithredu’r Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol ar gyfer Diabetes yn llawn erbyn 2013.
16. Yn rhan o broses fonitro ffurfiol, mae Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd yn dwyn Byrddau Iechyd Lleol i gyfrif drwy’r mesurau perfformiad a bennwyd ar gyfer rheoli cyflyrau cronig yn effeithiol, a nodwyd yn y Fframwaith Ansawdd Blynyddol.
Gweithredu’r Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol ar gyfer Diabetes – y sefyllfa bresennol
17.Ym mis Gorffennaf 2011, roedd y modd y caiff y Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol ar gyfer Diabetes ei weithredu’n amrywio ar draws Byrddau Iechyd Lleol.
18.Tynnodd y broses adolygu sylw hefyd at feysydd gwan cyffredin ledled Cymru o safbwynt gweithredu’r Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol ar gyfer Diabetes yn llawn, a gweithredu canllawiau’r Sefydliad Cenedlaethol dros Iechyd a Rhagoriaeth Glinigol ynghylch darparu addysg strwythuredig i gleifion. Yn benodol, roedd y meysydd gwan hynny’n ymwneud â:
Caiff y camau gweithredu sydd ar waith ar hyn o bryd i fynd i’r afael â’r meysydd hyn eu nodi yn yr adran nesaf.
19.Yn ogystal â rhoi gwybodaeth hanfodol am weithredu’r Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol ar gyfer Diabetes, a thynnu sylw at gamau gweithredu allweddol y mae angen i Fyrddau Iechyd Lleol eu cwblhau dros y ddwy flynedd nesaf, nododd yr adolygiad y sylfaen ar gyfer datblygu gofal diabetes ymhellach yng Nghymru.
Cymorth cyfredol i weithredu’r Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol ar gyfer Diabetes a chanllawiau’r Sefydliad Cenedlaethol dros Iechyd a Rhagoriaeth Glinigol
Archwiliad Diabetes Cenedlaethol
20.Ers 2007, mae Byrddau Iechyd Lleol wedi cymryd rhan yn yr Archwiliad Diabetes Cenedlaethol, sef yr archwiliad mwyaf yn y byd a gyhoeddir, sy’n eu galluogi i gymharu’r modd y maent hwy’n darparu gofal diabetes â’r modd y mae darparwyr eraill yng Nghymru a Lloegr yn ei ddarparu. Mae’r Archwiliad Diabetes Cenedlaethol yn cynnwys data gan gyfranogwyr ym maes gofal sylfaenol a gofal eilaidd, ac mae’n darparu gwybodaeth gyffredinol, ddilyniannol a chymharol ar lefel meddygon teulu, ysbytai, Ymddiriedolaethau Gofal Sylfaenol a Byrddau Iechyd Lleol, ac ar lefel ranbarthol a chenedlaethol. Mae’r Archwiliad Diabetes Cenedlaethol hefyd yn llunio adroddiadau sy’n seiliedig yn gyfan gwbl ar ddata o unedau pediatrig arbenigol sy’n darparu gofal i blant a phobl ifanc sydd â diabetes.
21.Mae cyfranogiad Cymru yn y broses archwilio wedi bod yn gwella, ac mae dros 80% o feddygon teulu wedi ymrwymo i gymryd rhan yn yr archwiliad a gynhelir eleni o Ofal Sylfaenol ym maes Diabetes. Bydd y lefel sylweddol hon o gyfranogiad yn yr Archwiliad Diabetes Cenedlaethol yn rhoi data cymharol i ddarparwyr gofal diabetes yng Nghymru am y modd y caiff eu gwasanaethau eu darparu yn erbyn safonau’r Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol ar gyfer Diabetes a chanllawiau’r Sefydliad Cenedlaethol dros Iechyd a Rhagoriaeth Glinigol.
Rhannu gwybodaeth a TG
22.Mae Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru wrthi’n cwblhau cynlluniau ynghylch datblygu system genedlaethol integredig ar gyfer rheoli cleifion sydd â diabetes, a fydd yn darparu mynediad amserol i wybodaeth glinigol gywir a chyfredol sy’n allweddol o safbwynt rheoli pobl sydd â diabetes yn effeithlon ac yn effeithiol a sicrhau dull effeithiol o gynllunio a darparu gwasanaethau yn y GIG.
Cefnogi gofal diabetes drwy weithgarwch ym maes iechyd y cyhoedd
Diabetes a gordewdra, deiet a gweithgarwch corfforol
23.Dangoswyd bod camau syml o ran ffordd o fyw’n effeithiol o safbwynt atal diabetes math 2 neu ohirio’r adeg y bydd yn dechrau. Mae’r camau hynny’n cynnwys:
· sicrhau a chynnal pwysau iach;
· bod yn gorfforol weithgar;
· bwyta deiet iach.
24. Ers 2007, rydym wedi gweld cyfraddau gordewdra sy’n codi yn arafu. Fodd bynnag, ni ddylem fodloni ar hynny. Mae angen i ni gadw’r momentwm i fynd er mwyn atal miloedd o oedolion a phlant rhag gorfod wynebu iechyd sy’n dirywio ac ansawdd bywyd is, ac atal y llywodraeth rhag gorfod wynebu costau cynyddol o safbwynt iechyd a gofal cymdeithasol. Y prif ffactor risg y mae modd ei osgoi, o safbwynt diabetes math 2, yw bod yn rhy drwm neu’n ordew. Mae nifer o bolisïau a rhaglenni ar waith.
25. Mae Llwybr Gordewdra Cymru Gyfan wedi’i ddatblygu sy’n nodi dull haenog o atal a thrin gordewdra, o waith atal yn y gymuned ac ymyrraeth gynnar i wasanaethau meddygol a llawfeddygol arbenigol. Mae Cyfarwyddwyr Therapïau a Gwyddor Iechyd a Chyfarwyddwyr Iechyd Cyhoeddus, drwy gydweithio ag awdurdodau lleol a rhanddeiliaid allweddol eraill, wedi mapio polisïau, gwasanaethau a gweithgarwch lleol ar gyfer plant ac oedolion ar sail pedair haen o ymyrraeth. Maent wedi nodi bylchau ac maent wrthi’n rhoi atebion lleol ar waith.
26. Lansiwyd ymgyrch marchnata cymdeithasol Newid am Oes Cymru ym mis Mawrth 2010 yn rhan o ymateb ehangach Llywodraeth Cymru i helpu pobl Cymru i sicrhau a chynnal pwysau iach, bwyta’n dda, symud mwy a byw’n hirach. Yr amcan cyffredinol yw annog a chynorthwyo teuluoedd ac oedolion i wneud newidiadau bach a graddol i’w ffordd o fyw, o safbwynt eu deiet a’u lefelau gweithgarwch corfforol, er mwyn lleihau’r risg o ddioddef y canlyniadau negyddol sy’n deillio o fod yn rhy drwm. Mae hefyd yn targedu oedolion â negeseuon am alcohol. Mae dros 43,000 o deuluoedd ac oedolion wedi cofrestru ar gyfer y rhaglen hyd yma.
27. Mae pecyn cynhwysfawr o raglenni gwella iechyd ar waith i gynorthwyo pobl i fwyta’n iach a bod yn gorfforol weithgar. Mae’r rhain yn cynnwys:
· Cynllun Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff Cymru, sy’n galluogi meddygon teulu i atgyfeirio cleifion sydd mewn perygl, gan gynnwys y sawl sydd â diabetes. Mae protocolau ar gyfer cleifion sydd â diabetes a chleifion sy’n ordew wedi’u datblygu, ac mae hyfforddiant ychwanegol wedi’i ddarparu i hyfforddwyr.
· Cyllido Byrddau Iechyd Lleol i gynyddu capasiti deietegol yn y gymuned, drwy ddefnyddio arbenigedd deietegydd i hyfforddi a datblygu gweithwyr cymunedol a / neu addysgwyr cyfoed, a gwirfoddolwyr sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc a phobl hŷn yn y gymuned, ynghylch sgiliau bwyd a maeth.
· MEND, sef rhaglen gymunedol sy’n seiliedig ar y teulu, ar gyfer plant rhwng 5 a 13 oed sy’n rhy drwm ac yn ordew a’u teuluoedd. Mae’r rhaglen amlddisgyblaethol yn rhoi’r un pwyslais ar fwyta’n iach, gwneud gweithgarwch corfforol a newid ymddygiad, grymuso’r plentyn, meithrin hunanhyder a sicrhau datblygiad personol.
Cyfeiriad ar gyfer gofal diabetes yng Nghymru yn y dyfodol
Cynllun Cyflawni ar gyfer Diabetes:
28.Fel yr amlinellwyd yn Law yn Llaw at Iechyd: Gweledigaeth 5 mlynedd ar gyfer y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru, y bwriad yw sicrhau dull gweithredu sy’n canolbwyntio mwy ar ganlyniadau ym mhob prif faes gwasanaeth, drwy gyfrwng cynlluniau cyflawni ar gyfer gwasanaethau. Gan ddefnyddio gwaith y Grŵp Gorchwyl a Gorffen arbenigol a sefydlwyd gan y cyn-Weinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, mae Llywodraeth Cymru wrthi’n datblygu Cynllun Cyflawni ar gyfer Diabetes i lywio ac arwain gweithgarwch Byrddau Iechyd Lleol ar gyfer y cyfnod hyd at 2016. Bydd y Cynllun Cyflawni ar gyfer Diabetes at ddibenion GIG Cymru yn egluro ymrwymiadau newydd Llywodraeth Cymru i’r cyhoedd o safbwynt gofal diabetes yng Nghymru, a bydd o gymorth i fodloni’r safonau gwasanaeth a nodwyd yn y Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol ar gyfer Diabetes. Caiff y Cynllun Cyflawni ar gyfer Diabetes ei gyhoeddi at ddibenion ymgynghori ddiwedd eleni, a bydd yn mynd i’r afael ag ymrwymiadau’r Llywodraeth hon ar gyfer gofal diabetes hyd at 2016.
29.Pennodd y Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol ar gyfer Diabetes nifer o safonau ar gyfer gofal diabetes, sy’n dal yn berthnasol, a nod Llywodraeth Cymru o hyd yw gweithredu’r rhain yn llawn erbyn 2013. Yn dilyn adolygiad Llywodraeth Cymru o gynnydd yn ystod 2010/11, cydnabu y byddai sicrhau bod y Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol ar gyfer Diabetes wedi ei weithredu’n llawn ledled Cymru erbyn 2013 yn anodd iawn. Bydd y Cynllun Cyflawni ar gyfer Diabetes yn ailgadarnhau ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gyrraedd y safonau a nodwyd yn y Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol ar gyfer Diabetes, a thrwy sefydlu grŵp gweithredu Cymru gyfan i ddarparu arweinyddiaeth glir a chanolbwyntio ar sicrhau canlyniadau mesuradwy i gleifion, bydd yn ceisio adfywio’r broses o gyrraedd y safonau allweddol hynny.
30.Yn ogystal ag ailddatgan ymrwymiad y Llywodraeth hon i weithredu’r Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol ar gyfer Diabetes, canllawiau’r Sefydliad Cenedlaethol dros Iechyd a Rhagoriaeth Glinigol ac argymhellion yr Archwiliad Diabetes Cenedlaethol, bydd y ddogfen yn ceisio mynd i’r afael ymhellach â’r meysydd gwan a nodwyd yn yr adolygiad o ddiabetes yn 2010/11.
31.Bydd y cynllun cyflawni yn cyflwyno strwythur monitro newydd a gaiff ei ategu gan set fach o ddangosyddion canlyniadau o ran y boblogaeth a mesurau perfformiad y GIG, y bwriedir iddynt fesur effeithiolrwydd gofal diabetes a’i effaith ar iechyd yng Nghymru.
32.I gefnogi’r gwaith o weithredu a monitro’r Cynllun Cyflawni ar gyfer Diabetes, dyma fydd cylch gorchwyl Grŵp Gweithredu Diabetes Cymru Gyfan:
· Darparu dull cydgysylltiedig ar gyfer Cymru gyfan o gefnogi GIG Cymru;
· Hwyluso gwaith rhannu a chyhoeddi arfer gorau ledled Cymru;
· Adnabod cyfyngiadau ac atebion i broblemau clinigol a gweithredol penodol;
· Darparu gwybodaeth i Lywodraeth Cymru am faterion lleol ac am gynnydd tuag at weithredu’r cynllun.
33. Yn rhan o’r cynllun cyflawni, bydd Grŵp Gweithredu Diabetes Cymru Gyfan yn cael ei sefydlu i ddarparu arweinyddiaeth a goruchwyliaeth gadarn a chydgysylltiedig a chydlynu camau gweithredu mewn modd strategol.
34. Agwedd allweddol ar y cynllun cyflawni fydd canolbwyntio ar sicrhau bod y claf wrth wraidd y modd y caiff gwasanaethau eu darparu, a chynnig addysg strwythuredig. Dylai addysg strwythuredig i gleifion fod ar gael i bawb sydd â diabetes pan gânt eu diagnosio gyntaf, ac yna’n barhaus fel sy’n ofynnol, ar sail asesiad ffurfiol a rheolaidd o angen.
35. Mae Llywodraeth Cymru yn ymwybodol bod nifer y bobl sy’n manteisio ar addysg strwythuredig yng Nghymru ar hyn o bryd yn fach, ac mae angen gweithredu i sicrhau bod yr elfen hanfodol hon o ofal diabetes yn cael ei chyflawni’n effeithiol.
Atodiad
National Service Framework for Diabetes in Wales
